YNGLYN FDHR

Croeso i Foel Gasnach, Clwb beicio lawr allt (down hill). Mae FDHR (Foel Down Hill Riders) wedi ei leoli yn Nghoedwig Clocaenog tua 5 milltir allan o Rhuthun, Sir Ddimbych. Mae gan y clwb 4 trac ‘lawr allt’ i chi eu meistroli. Mae’n le ardderchog i reidwyr ‘lawr allt’ o bob oed a gallu. Yma mae rhywbeth i herio pawb.

Mae’r clwb ar agor i aelodau yn unig 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r traciau’n cael eu cynnal au haddasu trwy’r amser gyda syniadau newydd o hyd ar y gweill.

SUT Y DDECHREUODD

Cychwynwyd Foel Gasnach (FDHR) yn 2005 ar ol i’r trac enwog “Scouse Track” yn Llangwyfan cael ei gau lawr. Roedd prinder traciau yn Sir Ddinbych, felly aeth criw o reidwyr brwdfrydig lleol i chwilio am leoliad arall a fydde’n gwthio eu reidio i’r eithaf. Yn y dechrau, cyfrinach oedd ‘Foel’, ond erbyn hyn mae’r clwb yn gweithio gyda’r Comisiwn Coedwigaeth er mwyn cynal lleoliad o safon uchel i’r aelodau.

GOFRESTRU AR GYFER EIN CYLCHLYTHYR

Eich Enw (gofynnol)

Eich E-bost (gofynnol)